Mercy Ngulube

HIV Campaigner, Award-Winning Activist, TEDx Speaker /  Ymgyrchydd HIV, Siaradwyr TEDx.
Caerdydd / Cardiff.

 

‘Wales has always been independent to me, I love the way in which anywhere, and everywhere being Welsh has always meant there’s something different. From our Eisteddfod to the way I love the perpetual delight of a cup of tea and a Welsh cake to bumping into a fellow Welshie and to having a beautiful land to call our own, Wales has a sense of being independent, anywhere and everywhere. It’s been wonderful to watch Wales take a more international approach in the past couple of years, and build its reputation globally – it would be so interesting to see what an Independent Wales would blossom to be.” 

 

Yn fy llygaid i, gwlad rydd fu Cymru erioed. Rwy’n caru’r ffordd mae Cymreictod – yn unrhyw le ac ym mhobman – wedi golygu fod rhywbeth gwahanol wastad ar gael. Mae gan Gymru naws annibynnol – o’r Eisteddfod i’r pleser pur rwy’n ei gael bob tro rwy’n mwynhau paned o de a phice bach, o’r profiad o daro ar draws cyd Gymraes neu Gymro yn rhywle i’r ffaith fod gennym wlad hardd sy’n perthyn i ni. Does dim ots ble yr ydych, mae Cymru’n teimlo’n annibynnol – yma ac ym mhobman. Mae gwylio Cymru’n meithrin agwedd fwy rhyngwladol a datblygu ei henw’n fyd-eang dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn brofiad bendigedig – byddai mor ddiddorol gweld sut y byddai Cymru annibynnol yn blodeuo.”