Artist.
Porthmadog
“Rydan ni wedi sefyll o’r neilltu a gadael i bobl eraill benderfynnu be ddylai ddigwydd i’n gwlad ni ers yn rhy hir. Mae hwn yn gyfle i Gymru a phobl Cymru i ddangos ein hyd a’n lled. Ma gynnon ni draddodiad hir a chynhyrchiol o greu unigolion talentog – pobl a gafodd eu hanwybyddu ers oes, neu sydd wedi gorfod mynd i ffeindio gwaith yn rhywle arall. Rydan ni wastad wedi bod yn agored i syniadau newydd a ffyrdd newydd o feddwl. Does bosib na fyddai cael ein llywodraeth ein hunan i gymryd penderfyniadau a fyddai’n ein helpu ni gyd ac o fudd i bawb yn golygu y byddai Cymru gyfan yn elwa. Does dim angen ofni annibyniaeth, mae angen ei gofleidio: Yna fe allwn ni helpu ein hunain drwy helpu pobl eraill hefyd. Gwlad rydd ei barn a’i meddwl fu Cymru erioed ac mae pobl Cymru’n haeddu mwy na maen nhw’n ei gael ar hyn o bryd. Iaith Cymru yw pobl Cymru. Dewch i ni newid tynged ein dyfodol a sefyll dros yr hyn yr ydym yn credu ynddo. Cymru am byth.”
“For too long we have stood by and let others decide what should happen to our country this is an opportunity for Wales and Welsh people to show what we are made of. We have a long and productive tradition of producing talented individuals who have long been ignored or have had to seek work elsewhere. We have always been open to new ideas and ways of thinking and having our own government to make decisions that help and benefit all is surely the best way that Wales can benefit itself. Independence is not something to be scared of its something to cherish: we can then help ourselves by also helping others. Wales has always been a free thinking country and the Welsh people deserve more than what they are getting. The language of Wales is its people. So let’s change our destiny and stand up for what we believe in. Cymru am byth.”