Dr. Rhiannon M Williams

Darlithydd ac Ymarferydd Theatr // Lecturer and Theatre Practitioner.

 

“Mae’n fy nigalonni bod sgwrs Annibyniaeth yn terfynnu’n aml gyda ‘rydym ni rhy fach’ a ‘rhy dlawd’ pan nad oes unrhyw dystiolaeth i brofi fod hynny’n wir. Rydym wedi bod yn rhy barod i wrando ar ddisgwrs negyddol am ein hunain erioed.

Gwyred y drafodaeth i ffocysu ar y positif, a’r myrdd o bosibiliadau fydd yn digwydd yn sgil Annibyniaeth: Hunanreolaeth gwleidyddol a gweinyddol, penderfyniadau fyddai’n adlewyrchu anghenion lleol a Chymreig, hunan-gred ac adenydd i’n diwylliant a’n hiaith, clywed lleisiau a gweld enfys o bobl sydd yn ein hadlewyrchu a’n hannog yn ein Cymru ni. Mae’r egni a fyddai’n dod gydag Annibyniaeth yn anferth ac yn gwneud unrhyw beth yn bosib. Fel Mam i blant ifanc gobeithiaf y byddant yn gallu tyfu a ffynnu mewn Cymru rhydd.”

 

 

“It is disheartening that conversations around Independence often stop with ‘We are too small’ and ‘too poor’ when there is no evidence to prove that is the case. We are always too ready to listen to a negative discourse about ourselves.

Let’s focus on the positive, and the myriad of possibilities that will arise with Welsh Independence: political and administrative self-determination, decisions that reflect local and Welsh needs, self belief in our culture and language, voices that reflect and and encourage us in our own Wales. The energy of Independence would be enormous and make anything possible. As a mother, I hope that my children can grow and thrive in a free Wales.”