Writer and co-founder Labour for IndyWales / sgwennwr a gyd-sefydlwyr Labour for IndyWales.
Arddlîn, Powys.
Imagine a better Wales:
“As a poet, it’s my job to comment on, document, and sometimes invent the beauty, hilarity, and profundity in what I see – ‘dusting the instances’ to find diamonds in clean light & good air or demanding better from the human. As an activist for Labour for IndyWales, I try to be evidence-based, logical, and speak in a language that politicians can understand and use.
These two things shouldn’t have to be separate. Why aren’t our politicians working with poets? Why aren’t more poets politicians? I’d argue it’s because the echoes of Empire and the lack of room a London-based political class gives for new ideas to breathe. An independent Wales gives us that room to breathe. It frees us from the ugly weight of Westminster. What it definitely does is give Wales the constitutional freedom to fulfil the Welsh Future Generations Act.
It frees us all to imagine a better Wales: a Wales that doesn’t sell weapons, a Wales that not only is carbon neutral but repairs the damage done; a Wales that is interconnected and interwoven from generation to generation, caring and learning reciprocated until we are all well and truly ready for the future.”
Dychmygu gwell Cymru:
“Rhan o fy swydd fel bardd yw dogfennu a chynnig sylwadau ar y pethau rwy’n eu gweld, ac weithiau, ffeindio ffordd o greu’r harddwch a’r miri a’r dwyster yn y pethau hynny – ‘brwsio’r llwch oddi ar ennydau’ er mwyn ffeindio deiamwntiau yn y golau pur a’r awyr iach neu fynnu gwell gan ddynol ryw. Fel ymgyrchydd ar ran Labour for IndyWales rwy’n trio bod yn rhesymegol – seilio popeth ar dystiolaeth a siarad mewn iaith y gall gwleidyddion ei deall a’i defnyddio. Ni ddylai fod angen i’r ddau beth yma gerdded ar wahân. Pam nad yw gwleidyddion yn gweithio gyda beirdd? Pam nad oes mwy o feirdd yn wleidyddion? Fe fyddwn i’n dadlau mai hen adleisiau’r Ymerodraeth a’r diffyg lle a roddir i syniadau newydd anadlu gan ddosbarth gwleidyddol sy’n byw a bod yn Llundain sy’n gyfrifol am hyn. Mae Cymru annibynnol yn creu’r lle yna i ni anadlu. Mae’n ein rhyddhau rhag pwysau hyll San Steffan. Ac heb os, mae’n sicrhau’r rhyddid cyfansoddiadol i ni allu gwireddu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae’n rhyddhau pob un ohonom ni i ddychmygu gwell Cymru: Cymru sydd ddim yn gwerthu arfau, Cymru sydd nid yn unig yn garbon-niwtral ond sydd hefyd yn unioni’r difrod sydd wedi ei wneud yn barod; Cymru sydd wedi ei chyd-gysylltu ac sy’n gweu gwahanol genhedlaethau ynghyd, lle mae gofal a dysgu yn cyd-elwa a chyfatebu nes ein bod ni oll yn barod o ddifri am y dyfodol.”