Photographer, environmental & social campaigner / Ffotograffydd ac Ymgyrchydd Amgylcheddol a Chymdeithasol.
Caerdydd / Cardiff.
“I’m from a place where the market town had a diverse resilient economy. Next to it was mixed agriculture, with at least fifty percent more nature and biodiversity than now. Multinationals had begun to touch Mid-Wales, then the slide accelerated. Like many I want this back, but more. I want inclusive communities that consider their immediate environment to be their sustaining force. Independence, not us and them; people, sharing, choice, culture, wellbeing & equality. Until this happens we’ll not evolve far past a climate crisis.”
“Rwy’n dod yn wreiddiol o ardal lle’r oedd gan y dref farchnad leol economi amrywiol a chadarn. O’i amgylch roedd amrywiaeth o amaethyddiaeth gydag o leiaf 50 y cant yn fwy o natur a bioamrywiaeth nag sydd gyda ni nawr. Roedd dylanwad y cwmniau mawr amlwladol yn dechrau cyrraedd Canolbarth Cymru adeg hynny, ac yna fe gyflymodd y llithriad. Fel llawer o bobl, rwy eisiau’r byd yna’n ôl, ond rwy eisiau mwy hefyd. Rwy am weld cymunedau cynhwysol sy’n effro i’r ffaith mai’r amgylchedd o’u cwmpas yw’r grym mawr sy’n eu cynnal. Annibyniaeth, nid ‘ni a nhw’; pobl, rhannu, dewis, diwylliant, llesiant a chydraddoldeb. Nes bod hynny’n digwydd ni fyddwn ni’n esblygu’n llawer pellach nag argyfwng hinsawdd.”