Nia Wyn

Musician / Cerddor.  
Llandudno.

 

“Wrth dyfu i fyny, fe dyfodd fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fe dyfodd fy ymwybyddiaeth fod Cymru wedi’i datgysylltu’n llwyr o San Steffan ac unrhyw lywodraeth oedd mewn grym yno – llywodraeth a oedd yn cael ei hethol, bron yn llwyr, gan Loegr. Fe ddechreuais deimlo’n rhwystredig wrth weld cyn lleied mae San Steffan yn ei falio am bobl Cymru. Dydy’r sefyllfa yma wedi newid braidd dim ers y cafodd Cymru ei ‘huno’ – yn rhan o Loegr – yn y 1500au, er mwyn cael ei chadw dan reolaeth Lloegr, fel sydd wedi digwydd i gymaint o wledydd eraill. Mae artistiaid ifanc o Gymru’n parhau i gynnal ein traddodiadau wrth greu celf radical a thrwy osod Cymru a’i hunaniaeth yn gadarn ar fap y byd ac yn falch o gynrychioli’n gwlad. Gyda Brexit caled yn debygol ac ar y gorwel, rwy’n credu ei bod yn hen bryd i ni gydio o ddifri yn y sgwrs am annibyniaeth i Gymru. Mae’n frawychus meddwl am gymaint o ddifrod sy’n mynd i ddigwydd i’n cymunedau yn sgil Brexit. O’r diwedd, mae angen ei llais ei hunan ar Gymru.”

 

“Growing up I got really interested in politics and felt Wales was so disconnected to Westminster and the government in power, overwhelmingly elected by England. It started to frustrate me to see how a toss Westminster gives for Welsh people – no far cry from when Wales was annexed in the 1500s and taken, like so many countries, to be part of England’s rule. Young Welsh artists are continuing our traditions in creating radical art and putting Wales and Welsh identity on the map, proud to be representing our country. With a hard Brexit likely on the horizon I think it’s high time we start having serious conversations about Welsh independence. It frightens me to think what Brexit is going to do to Welsh communities. Wales needs its own voice at long last.”