Francesca Dimech

Musician, Actor / Cerddor , Actor.
Penarth.  

 

“To me, independence is not about segregation or elitism but recognising that as a small nation, we have different needs to that of the UK as a whole which can only be recognised by those of us experiencing life in Wales. My grandfather emigrated here in the 1950s from Malta, one of the smallest independent nations in Europe. Frequent visits back to the island, barely bigger than Cardiff, has shown me how it is possible to keep a unique culture, language and customs alive while embracing outside influences. Like Malta, Wales is all the richer for accepting newcomers. I want to see an independent Wales within the European Union, unique in character but open to change and progress. I believe everybody who chooses Wales as their home deserves equal opportunities and the best access to services. Westminster currently does not deliver this to the people of Wales. Until we can control our own budgets, make our own laws, people in Wales are living as second-class citizens within the UK.”

 

“I fi, nid mater o ddewis arwahanrwydd yw annibyniaeth, nag arwydd o elitaeth chwaith. Yn hytrach mae’n gydnabyddiaeth fod gynnon ni anghenion, fel cenedl fechan, sy’n wahanol i’r Deyrnas Unedig drwyddi draw, ac mai dim ond ni sy’n byw yma yng Nghymru all ddeall yr anghenion hynny. Fe ymfudodd fy nhad-cu yma o Malta yn yr 1950au. Mae Malta’n un o genhedloedd annibynnol lleiaf Ewrop. Mae fy ymweliadau cyson nôl i’r ynys, sydd dim ond chydig yn fwy na Chaerdydd, wedi dangos i fi sut mae’n bosib cadw diwylliant, iaith ac arferion unigryw yn fyw wrth groesawu dylanwadau o’r tu allan hefyd. Fel Malta, mae derbyn newydd-ddyfodiaid yn gwneud Cymru’n gyfoethocach. Rwy eisiau gweld Cymru annibynnol o fewn i’r Undeb Ewropeaidd – fel cenedl â chymeriad unigryw sydd hefyd yn gwbl agored i newid a chynydd. Rwy’n credu fod pawb sy’n dewis Cymru fel cartref yn haeddu’r un cyfle a phawb arall sy’n byw yma a’r hawl i fanteisio ar y gwasanaethau gorau. Fel mae pethau’n sefyll heddiw, nid yw San Steffan yn rhoi hyn i bobl Cymru. Hyd nes y gallwn reoli ein cyllidebau ein hunain, llunio ein cyfreithiau ein hunain, fe fydd trigolion Cymru’n byw fel dinasyddion eilradd yn y Deyrnas Unedig.”