Eirlys Jones

Posteri Ffŵligans, graphic designer /  Dylunydd Graffig/
Conwy.

 

“Ffŵligans wasn’t intentionally political, our aim was to encourage positivity and pride in our language and culture even if you don’t speak Welsh or like rugby. However it has been increasingly difficult, if not impossible not to be frustrated and appalled by the recent events and the current political climate.

Being Welsh often feels that we are forever having to fight our corner, this attitude is reinforced by Westminster’s lack of consideration for Wales. We are an afterthought at best, predominantly ignored.

Wales has great potential that has been limited for too long. There is a need for change. Westminster has proved itself archaic, autocratic and so far removed from the people it supposedly represents. The recent image of Jacob Rees-Mogg lolling on the front bench during debate defined it.

There is no future in England’s dreaming (which presently is a mad, perverse nightmare) we need to forge our own future. By looking to other small independent countries for inspiration and guidance in successful, progressive self-governance it is a viable and exciting prospect.”

 

Doeddan ni ddim wedi bwriadu i Ffŵligans fod yn wleidyddol; roeddan ni eisiau annog pobl i fod yn bositif ac yn falch o’n hiaith a’n diwylliant – hyd yn oed os nad ydych chi’n siarad Cymraeg neu’n hoffi rygbi. Ond mae wedi mynd mor anodd, os nad yn amhosib, i beidio teimlo’n hollol rwystredig achos mae’r hyn s’n digwydd o’n cwmpas a’r hinsawdd wleidyddol ar hyn o bryd mor frawychus.

Yn aml, mae bod yn Gymraes neu’n Gymro yn gallu teimlo fel rhyw frwydr ddi-ddiwedd i sefyll eich cornel, ac mae hynny’n cael ei atgyfnerthu gan gyn lleied mae San Steffan yn poeni am Gymru. Ar y gorau, rhyw ystyriaeth funud olaf yw Cymru, ond gan amlaf mae’n cael ei hanwybyddu’n llwyr. Mae gan Gymru botensial aruthrol – potensial sydd wedi cael ei gyfyngu ers cymaint o amser. Mae angen newid pethau. Dro ar ôl tro rydan ni’n gweld fod San Steffan yn hynafol, yn unbenaethol ac yn bodoli mewn byd hollol wahanol i fyd y bobl y dylai fod yn eu cynrychioli. Mae’r ddelwedd yna o Jacob Rees-Mogg yn gorweddian ar y fainc flaen yn ystod dadl yn y Tŷ Cyffredin yn dweud y cwbl.

Does na’m dyfodol yng ngweledigaeth breuddwydion Lloegr (sy’n chwyrlio fel rhyw hunllef wallgo a gwyrdroëdig ar hyn o bryd). Mae angen i ni greu ein dyfodol ein hunain. Fe allwn ddysgu gwersi a chael ein hysbrydoli gan wledydd bach annibynnol, llwyddiannus a blaengar sydd wedi dewis ymreolaeth – mae’n bosibiliad cyffrous sydd o fewn ein gafael.”