Producer, Musician / Cynhyrchydd, Cerddor, Super Furry Animals.
Bangor.
“Wales an afterthought ? Na….. we are always thought of, considered then swiftly dismissed by the establishment, they simply don’t care. Our affairs are manufactured, systematic neglect by successive Westminster governments has delivered a desperate workforce, rising inequality, rising child poverty, falling life expectancy, we are poor by design compounded by a conditioned lack of self belief and shattered self confidence.
Taken for granted and treated with contempt a population seemingly in denial, conforming and believing that there is no other way, that this is life. But I believe that Independence is the vehicle for change, a change that can prioritise and deliver human and environmental wellbeing and a realignment based on sovereign and social equality not the imposition and arbitrary use and abuse of power that is Westminster.
Cymru has a unique opportunity to create something different, a meaningful freedom where we as individuals and communities are in a position of influence and are able to achieve not only self determination but self realisation.
Independence for its own sake is not my priority but it is a means to an end, an end to oppression an end to English majority rule and the beginning of a more just and egalitarian society and the means to fight the climate emergency as a matter of urgency.”
“Pwy sy’n honi mai dim ond rhyw ôl-ystyriaeth ddi-bwys yw Cymru? Na – mae Cymru wastad yn bresenol, yn fyw ym meddyliau ’r sefydliad ond dydi nhw’n malio dim. Dydy ystyriaethau ac anghenion ein gwlad byth yn cael eu cynrychioli o ddifri yn unman ac mae esgeulustod systematig gan lywodraethau San Steffan wedi arwain at weithlu sy’n anobeithio, twf mewn anghydraddoldeb, twf mewn tlodi plant a chyfradd disgwyliad oes sy’n disgyn. Dydy tlodi ein gwlad ddim yn anochel, mae’n beth bwriadol; ac ar ben hynny mae ein diffyg hunan-gred yn cael effaith enbyd arnom ni ac mae ein hunan-hyder wedi’i chwalu.
Rydan ni’n cael ein cymryd yn ganiataol a’n trin â dirmyg, ond rhywsut rydan ni’n dal i anwybyddu hyn a chydymffurfio gan gredu mai dyma’r unig lwybr sydd ar gael i ni, mai dyma’r unig ffordd i fyw. Rwy’n credu’n sicr y gall Annibyniaeth fod yn gyfrwng i newid ein sefyllfa – newid a fydd yn blaenoriaethu lles pobl a lles yr amgylchedd a rhoi trefn wahanol ar ein cymdeithas ar sail cydraddoldeb llywodraethol a chymdeithasol yn hytrach na gorfodaeth a chamddefnydd o’r grym sydd yn nwylo San Steffan.
Mae gan Gymru gyfle unigryw i greu rhywbeth gwahanol. Mae gynnon ni gyfle i greu rhyddid sy’n ystyrlon, lle gallwn ni ddylanwadu’n uniongyrchol ar ein sefyllfa fel unigolion a chymunedau a llywio’n llwybr ein hunan, nid yn unig at hunan-lywodraethu ond at hunan-wireddu.
Dydy Annibyniaeth ynddo’i hun ddim yn flaenoriaeth i fi; dw i’n ei weld fel carreg gamu a fydd yn dod â gormes i ben ac yn dod â rheolaeth gan fwyafrif Seisnig i ben. Mae’n gam cyntaf tuag at greu cymdeithas fwy cyfiawn a chydradd, ac yn ffordd o fynd i’r afael o ddifrif gydag argyfwng yr hinsawdd.”