Founder/Director of Gentle/Radical
Caerdydd / Cardiff.
“I believe in an independent Wales. But I also believe that independence can only be achieved if we truly understand our history.
In Wales we still articulate the colonial through the lens of an English/Welsh binary. The urgent task is to reorient that reading to a more nuanced recognition that this white majority nation, colonised by the English, has also been complicit in the British imperial enterprise, and been a willing beneficiary of the wider European colonial project.
I’d argue these seemingly polar positions are, actually, our deepest asset. Being both victim, and beneficiary of colonialism, means we have in Wales a rare capacity for both radical empathy, and radical responsibility. It’s from this place of dual experience, that we can unlock truly emancipated futures.
When the Welsh independence movement struggles alongside wider anti-colonial and anti-racist movements, when in Wales the yearning to dismantle white supremacy is as strong as the yearning to free ourselves from English supremacy, when we champion a multiplicity of liberation struggles as our own – we will have matured sufficiently to embrace the pressing project of local, national and global allyship that is the hallmark of any progressive nation. When in Wales we decolonise our own readings of the colonial, we will be ready to lead our own affairs, informed by responsibility, solidarity, and love.”
“Rwy’n credu mewn Cymru annibynnol. Ond rwy’n credu hefyd mai dim ond pan fyddwn ni’n deall ein hanes yn iawn y gallwn ni sicrhau gwir annibyniaeth.
Yng Nghymru rydyn ni dal yn gaeth i’r naratif ymerodrol ac yn defnyddio lens ddeuol Gymraeg/Saesneg i fynegi hynny. Mae dirfawr angen ail-gyfeirio’r dehongliad yma i feithrin dealltwriaeth fwy gofalus a thrylwyr o’r sefyllfa. Mae angen cydnabod fod ein cenedl, sydd â mwyafrif o drigolion gwyn ac a gafodd ei gwladychu gan Loegr, hefyd wedi cyfrannu i weithredoedd ac ymgyrchoedd ymerodrol Prydain ac wedi yn fwy na pharod i elwa ar gefnl y prosiect gwladychu ehangach gan wledydd yn Ewrop.
Fy fyddwn i’n dadlau, er bod gennym brofiadau a gwirioneddau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd ac yn eistedd mewn gwahanol begynau, fe allwn elwa o’r y sefyllfa yma. Gan fod Cymru wedi dioddef wrth gael ei gwladychu ar y naill law ac wedi elwa yn sgil prosesau gwladychu ar y llall, rydym mewn sefyllfa arbennig iawn gan fod gyda ni ymdeimlad o empathi radical yn ogystal â chyfrifoldeb radical. Y profiad deuol hwn yw’r allwedd sy’n ein galluogi i agor drws ar ddyfodol sy’n wirioneddol rydd.
Pan fo’r mudiad dros annibyniaeth i Gymru yn ymladd ar y cyd â mudiadau ac ymgyrchoedd gwrth-drefedigaethol a gwrth-hiliol, pan fod ysfa pobl Cymru i weld datgymalu grym goruchafwyr gwyn lawn mor gryf â’n dyhead i dorri’n rhydd o oruchafiaeth Lloegr, pan rydyn ni’n dewis cefnogi ymgyrchoedd eraill dros ryddid gyda’r un angerdd â’n hymgyrch ni ein hunan – fe fyddwn wedi aeddfedu digon fel cenedl ac fe allwn fynd i’r afael o ddifrif â’r her o greu cynghreiriau lleol, cenedlaethol a byd-eang sydd yn eu tro’n diffinio unrhyw genedl flaengar. Wedi i ni lwyddo i ddad-wladychu ein dehongliad o’n hanes trefedigaethol ein hunain yma yng Nghymru, fe fyddwn ni’n barod am ymreolaeth dan adain ein hymwybyddiaeth o gyfrifoldeb, undod a chariad.”