Broadcaster, Dementia Campaigner / Darlledwr, Ymgyrchydd Dementia
Radyr.
“Beth ddigwyddodd i optimistiaeth ’97 pan roedd datganoli yn mynd i greu paradwys gyda pholisiau radical a fyddai’n trawsnewid ein bywydau? Ar ôl ugain mlynedd mae democratiaeth yng Nghymru ar ei gliniau.
Dw i wedi credu erioed yn yr hawl sydd gan bob cenedl i reoli ei hunan. Dw i wedi syrffedu ar wleidyddion, darlledwyr ac eraill yn cyfeirio at y Genedl Brydeinig. ‘Does na’r fath beth yn bod. Rydym yn bedair cenedl wahanol o fewn Prydain.
Allwn ni ddim fforddio peidio cofleidio annibyniaeth a sustem newydd o lywodraeth. Un sy’n rhoi’r pwyslais ar les unigolyn a chymuned, yn hytrach nag ar yr ystadegau diflas yn ymwneud a’r polisiau ariannol a GDP yn unig sy’ ddim yn gweithio beth bynnag. Cymru egaliteraidd eangfrydig a fyddai’n cydweithio gyda gwledydd bychain tebyg i gael gwared â thlodi a daclo newid hinsawdd, ac a fyddai wrth ei bodd yn rhannu a chyfnewid profiadau ieithyddol a diwylliannol.
Rwyn cyfaddef i mi gael fy mhersawdio gan yr “arbenigwyr” hynny oedd yn pregethu’n ddiddiwedd wrthym ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd i fod yn annibynnol eu bod yn iawn am eu bod yn gwybod am beth oedden nhw’n siarad!
Erbyn hyn, ar ol gwrando ar economegwyr a phobl busnes eraill uchel eu parch dwy’n ffyddiog – Ie, Gymry, annibyniaeth yw’r ateb. “Ymlaen mae Canaan!”
“What happened to the optimism of ’97 when devolution was going to create a paradise with radical policies that would transform our lives? Twenty years on, democracy in Wales is on its knees.
I’ve always believed in the right of every nation to rule itself. I’m so tired of hearing politicians, broadcasters and others referring to the British Nation . There’s no such thing! We are four distinct nations within Britain.
We can’t afford not to embrace independence and a new system of government – one that puts the emphasis on well-being rather than on dreary monetary and GDP statistics which don’t seem to be working anyway.
An egalitarian Wales that would be outwardly looking, that would work with other like minded nations to end poverty and tackle climate change, and would joyfully share and exchange language and cultural experiences.
We’ve been told ad infinitum that we’re too small and poor to be independent, and I was persuaded by those “experts” that they had to be right as they knew what they were talking about!
Now, having listened to other highly regarded economists and business people, I know – Yes, Cymru, we can!”